Gan fod pawb yn hoffi cymryd rhan mewn cystadleuaeth, mae’n ffordd wych o gael y disgyblion yn eich ysgol i feddwl am ddiogelwch ar y ffyrdd.
O dro i dro, bydd eich Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol yn anfon manylion cystadleuaeth arbennig atoch chi. Gwaith y Swyddog Iau fydd rhannu’r wybodaeth, sôn wrth bawb am y dyddiad cau, casglu pob ymgais a danfon y cyfan at y Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd.
Ond gallwch chi hefyd drefnu’ch cystadlaethau’ch hun:
Meddyliwch am y math y gystadleuaeth yr hoffech chi ei threfnu.
Ø Gallai fod yn chwilair, yn gerdd, yn stori, yn gwis, yn boster neu’n unrhyw beth arall y gallwch chi feddwl amdano.
Gwnewch yn siwr ei fod yn syml.
Ø Meddyliwch am y grwp oedran rydych chi’n anelu atyn nhw a dewiswch rywbeth y byddan nhw’n ei hoffi ac yn gallu ei wneud.
· Bydd angen pennu dyddiad cau a gwneud yn siwr bod enw’r disgybl a’i (h)oedran ac enw’r dosbarth wedi’u hysgrifennu ar gefn pob ymgais.
Gwobrau.
Ø Does dim rhaid i’r wobr fod yn fawr. Gallai fod yn bensil neu’n bren mesur, ond byddai’n beth da petai cysylltiad rhwng y wobr a diogelwch ar y ffyrdd.
Ø Efallai y gallech chi gael yr ysgol, cwmni lleol neu’ch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol i roi gwobr.
I gael syniadau am gystadlaethau, cliciwch ar eich ardal chi.